Y Pwyllgor Cyllid

Dyddiad y cyfarfod: 9 Hydref 2013

Cyfeirnod:  FIN(4)-18-13 (papur 4)

 

Craffu ar y Gyllideb 2013-2014

 

Pwy sy’n gyfrifol am bwrs y wlad? Dadansoddiad

Mae’r papur hwn gan wasanaeth allgymorth y Cynulliad yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y sioeau haf eleni.

Ceisia’r papur hwn nodi casgliadau, ac mae’n gwahodd yr Aelodau i ystyried: 

a)    Beth yw’r ffordd orau o ymgorffori’r gwaith hwn yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft?

b)   Beth yw’r ffordd orau o ymateb i’r dymuniad i lais y cyhoedd gael ei glywed?

Methodoleg a maint sampl

Cafwyd 48 o ymatebion i’n harolwg. O gofio ei fod yn arolwg eithaf manwl, ynglŷn ag arian, mae hwn yn nifer rhesymol o ymatebwyr. Ond nid yw’n ein galluogi i ddod i gasgliadau pendant - dim ond i gael syniad o’r argraffiadau.

Rydym yn amcangyfrif y byddai hanner y bobl a lenwodd yr holiadur wedi bod yn trafod ag aelod o’r tîm allgymorth.

Casgliadau

C1. Roedd rhaniad eithaf cyfartal rhwng y rhai a wyddai fod y Cynulliad yn ‘plismona’ cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, a’r rhai na wyddai hynny.

C2. Cafwyd rhywfaint o gydnabyddiaeth o rôl y Cynulliad yn asesu gwerth am arian.

C3. Roedd 62% o’r rhai a ymatebodd yn credu bod gwaith y Cynulliad yn effeithio ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru.

C4. Sut y bydd y Cynulliad yn craffu ar waith y Llywodraeth?  Yr holiadur drwy e-bost oedd y mwyaf poblogaidd, ac yna’r digwyddiadau arbennig  (serch hynny, ni sgoriodd yr un o’r opsiynau fwy nag 8, ac mae hyn yn awgrymu nad oes gan y cyhoedd lawer iawn o wybodaeth ynghylch sut y byddwn yn cynnal gwaith craffu).

C5. Pan ddywedwyd sut y byddwn yn cynnal gwaith craffu, roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n draeanau o ran pwy oedd o’r farn fod hyn yn fwy na’r hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl, yn llai na hynny neu’n cyfateb yn fras i’r disgwyliad.

C6. Roedd mwyafrif o’r farn nad oedd llais y cyhoedd yn cael ei glywed yn ddigonol yn y broses. Er bod traean yn credu ei fod yn cael ei glywed yn ddigonol!

C7. Roedd mwy o sylw gan y cyfryngau, ac ymgysylltu â’r cyhoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol wedi’u nodi fel y ffyrdd mwyaf poblogaidd o ymgysylltu â llais y cyhoedd.

C8. Pan ofynnwyd a fyddent yn hoffi i’w safbwyntiau gael eu clywed, dywedodd 38% na fyddent, ac nid oedd 15% yn sicr. Mae hyn yn awgrymu nad oes gan oddeutu hanner y boblogaeth lawer o ddiddordeb mewn cymryd rhan weithredol ym mhroses y gyllideb.

Crynodeb

Mae ein harolwg yn atgyfnerthu canfyddiad Comisiwn Silk nad oes gan y cyhoedd wybodaeth ddofn na chyffredinol am broses y Cynulliad o graffu ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn awgrymu nad oes gan hyd at hanner pobl y wlad unrhyw ddiddordeb mewn cael gwybodaeth. Ymhlith y rhai a oedd â diddordeb, yr holiadur drwy e-bost oedd y cyfrwng o ddewis ganddynt ar gyfer ymgynghori â hwy.

 

Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Hydref 2013


 

Y Pwyllgor Cyllid

Craffu ar y Gyllideb 2013-2014

Crynodeb o’r Gwaith Allgymorth

Cefndir

Bu’r tîm Allgymorth yn hyrwyddo holiadur a luniwyd i geisio canfod beth oedd barn pobl am rôl y Cynulliad o ran craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a ddymunent gymryd rhan yn y broses hon yn y dyfodol, a sut yr hoffent wneud hynny.

Roedd yr holiadur wedi’i anelu at y cyhoedd a oedd yn ymweld â bws y Cynulliad dros yr haf mewn niferoedd o leoliadau ledled Cymru. Roedd yr ymarfer ymgysylltu hwn yn cynnwys un holiadur ar bapur.

Roedd yr holiadur yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar graffu ar y gyllideb a chyfranogiad y cyhoedd yn hynny, sef:

-          Codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod gan y Cynulliad rôl o ran “plismona” y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian cyhoeddus;

-          Tynnu sylw at sut y mae’r Cynulliad yn archwilio’r cynlluniau gwariant hyn ar ran pobl Cymru;

-          Canfod a yw pobl Cymru’n credu bod hyn yn ddigon, yn enwedig mewn perthynas â chasglu barn y cyhoedd ynghylch y broses graffu;

-          Gofyn a hoffai’r cyhoedd roi eu barn ar y broses graffu; a

-          Canfod a yw’r cyhoedd yn credu bod gwaith craffu’r Cynulliad yn cael effaith ar gyllideb, gwariant ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru.

Methodoleg

Fel rhan o waith y Pwyllgor Cyllid o graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014, cynhyrchodd y tîm Allgymorth holiadur ar wybodaeth y cyhoedd am waith craffu’r Cynulliad ar y gyllideb, a sut y gall y Cynulliad helpu i hyrwyddo hyn a chael aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses.

Roedd yr holiadur yn agored i aelodau’r cyhoedd yn gyffredinol, a thargedwyd hwy: 

-          mewn digwyddiadau ymgysylltu dros yr Haf; a

-          thrwy grwpiau ar deithiau i’r Senedd ac ymwelwyr â’r Senedd

 

 

Ystadegau Allweddol

48 Cyfanswm yr ymatebion a gafwyd i’r holiadur

13 Cyfanswm y sioeau cenedlaethol a rhanbarthol lle y cafodd yr holiaduron eu hyrwyddo

 

Cyfanswm y Rhai a Gymerodd Ran yn ôl Rhanbarth

Mae'r diagram hwn yn dangos cyfanswm y bobl yr ymgysylltwyd â hwy’n uniongyrchol fel rhan o’r prosiect. 

 

Dadansoddiad
 Cyfanswm yr ymatebion gan y cyhoedd, fesul rhanbarth, yr ymgysylltwyd â hwy naill ai yn nigwyddiadau’r haf, drwy deithiau i’r Senedd neu drwy ymweliadau â’r Senedd: 
 
 - Gogledd Cymru: 12
 - Canolbarth a Gorllewin Cymru: 20
 - Gorllewin De Cymru: 0
 - Canol De Cymru: 16
 - Dwyrain De Cymru: 0

 

 

 

 

Gweithgaredd Cyllideb 2013-2014

Cwestiwn 1 – A oeddech yn gwybod bod y Cynulliad yn “plismona” cynlluniau gwariant y Llywodraeth fel hyn?

I ddiben cwestiwn un, darparwyd gwybodaeth gefndirol i gyfranogwyr ar broses y gyllideb, sef:  cyfranogwyr yn cael eu darparu gyda gwybodaeth gefndir ar y broses y gyllideb, hynny sef:

– Bydd y Llywodraeth yn nodi ei chynlluniau ar gyfer gwario arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn sydd i ddod;

– Bydd y Cynulliad yn archwilio’r cynlluniau hyn ar ran pobl Cymru; a

– Bydd y Cynulliad yn penderfynu a yw’n cytuno ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth ai peidio.   

Cwestiwn 2 – A ydych o’r farn bod Aelodau’r Cynulliad yn mesur a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithiol ai peidio?

At ddiben cwestiynau dau a tri, darparwyd gwybodaeth gefndirol i’r cyfranogwyr ynghylch pa werthoedd y mae’r Cynulliad yn eu hystyried wrth graffu ar gynllun cyllideb Lywodraeth Cymru, sef: fforddiadwyedd, blaenoriaethau, gwerth am arian a phroses y gyllideb.

Cwestiwn 3 – A ydych yn credu bod gwaith y Cynulliad yn effeithio ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ac ar yr atebolrwydd am arian cyhoeddus?

 

 

 

Cwestiwn  4 - Sut y bydd y Cynulliad yn gwneud hyn yn eich barn chi?

At ddibenion gweddill y cwestiynau, gofynnwyd i’r cyfranogwyr ddewis sut yr oeddent yn credu bod y Cynulliad yn craffu ar waith y Llywodraeth ar hyn o bryd drwy ddewis o restr o rai o’r pethau y mae’r Cynulliad yn eu gwneud a rhai pethau nad yw’n eu gwneud.

 

 

 

 

Cwestiwn 5 – A yw hyn yn fwy neu’n llai nag yr oeddech yn ei ddisgwyl?

 

 

 

Cwestiwn 6 - O gofio natur dechnegol y gyllideb, a ydych o’r farn bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed yn ddigon amlwg yn y broses hon, er enghraifft, drwy sefydliadau cynrychioliadol?

 

 

 

 

 


Cwestiwn 7 - Os mai “Nac ydw” yw eich ateb, beth a allai’r Cynulliad ei wneud yn well yn eich barn chi, i sicrhau bod barn y cyhoedd yn cael ei glywed?

 


Cwestiwn 8 – A hoffech gael lleisio eich barn yn ystod y broses hon?

 

 

 

 

Cwestiwn 9 – Os mai “Hoffwn” oedd eich ateb, dywedwch ym mha ffordd?